blue skies, 4 stones balancing on top of each other on a beach
Sesiynau lles - Hwb i'ch Hunanofal
Digwyddiad: digwyddiadau
Mer, 10/09/2025 - 10:00yb-Mer, 10/09/2025 - 12:00yp
Ar-lein

Gwybodaeth am y digwyddiad

Disgrifiad o'r Cwrs
Gweithdy 2 awr sy’n rhan o’n cyfres “Hwb” boblogaidd. Yn groes i’r argraff gyffredinol, nid tretio’ch hun â rhywbeth moethus yw hunanofal. Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar sut mae hunanofal bob dydd yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddyliol a chorfforol drwy wneud y pethau bychain.

Trosolwg
Bydd y sesiwn yn edrych ar y canlynol:

  • Deall Hunanofal
  • Dydy hunanofal ddim yn hunanol
  • Goresgyn euogrwydd
  • 8 nodwedd o hunanofal:
  • Cwsg
  • Maeth
  • Hydradu
  • Anadlu
  • Symud
  • Perthnasoedd
  • Llonyddwch
  • Cysylltiad

Canlyniadau
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y mynychwyr yn:

Cydnabod pam mae hunanofal bob dydd yn hanfodol

Gallu goresgyn euogrwydd drwy hunanofal

Defnyddio’r 8 nodwedd o hunanofal fel ffyrdd gwyddonol o wella eu hiechyd

Fformat 
Bydd yn cael ei gyflwyno ar-lein  

Ar gyfer pwy?
Mae’r cwrs yn agored i bawb - staff sy’n gweithio i sefydliadau sy’n aelodau o Creu Cymru, aelodau llawrydd a’r rheini nad ydynt yn aelodau o Creu Cymru sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Cost 
Mae Creu Cymru yn deall pwysigrwydd llesiant a chefnogi staff sy’n gweithio yn y sector. Byddwn ni’n talu am yr hyfforddiant hwn, felly bydd ar gael am ddim i aelodau ac am £10 yn unig i’r rheini nad ydynt yn aelodau (£20 os ydych chi’n mynd i’r tair sesiwn Hwb i Lesiant). 

Anfonwch e-bost at Yvonne i gofrestru ar yvonne@creucymru.com