
Gwybodaeth am y digwyddiad
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r gweithdy dwy awr hwn yn archwilio beth yw hyder, sut mae ein system o gredu yn effeithio ar ein hunanhyder, ac yn cynnig nifer o ddulliau sy’n helpu i oresgyn ansicrwydd er mwyn teimlo'n fwy hyderus. Mae’r gweithdy hwn wedi’i achredu ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Trosolwg
- Beth yw hyder?
- Rhwystrau i hyder
- Pŵer ein credoau
- Y system ysgogi rwydweithiol
- Pam ein bod yn ansicr am ein gallu
- Anghysondeb gwybyddol
- Newid credoau
- Ailadrodd tystiolaeth
- Effaith Scrooge
- Pleser neu boen eithafol
Canlyniadau
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y mynychwyr yn:
- Gallu diffinio hyder yn glir
- Gwybod sut mae pethau’n gallu effeithio’n negyddol ar ein hyder
- Cydnabod pwysigrwydd ein system o gredu
- Gwybod sut mae’r ymennydd yn hidlo gwybodaeth i gefnogi ein system o gredu
- Deall manteision cychwynnol ansicrwydd
- Gwybod pam mae’n gallu teimlo mor anodd newid ffordd o gredu
- Meddu ar ddulliau gwahanol o newid ffordd o gredu
Fformat
Bydd yn cael ei gyflwyno ar-lein
Ar gyfer pwy?
Mae’r cwrs yn agored i bawb - staff sy’n gweithio i sefydliadau sy’n aelodau o Creu Cymru, aelodau llawrydd a’r rheini nad ydynt yn aelodau o Creu Cymru sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Cost
Mae Creu Cymru yn deall pwysigrwydd llesiant a chefnogi staff sy’n gweithio yn y sector. Byddwn ni’n talu am yr hyfforddiant hwn, felly bydd ar gael am ddim i aelodau ac am £10 yn unig i’r rheini nad ydynt yn aelodau (£20 os ydych chi’n mynd i’r tair sesiwn Hwb i Lesiant).
Anfonwch e-bost at Yvonne i gofrestru ar yvonne@creucymru.com