Ymunodd fel Ymddiriedolwraig, Mehefin 2021
Ymunodd Sarah Horner, Prif Swyddog Gweithredol, â’r cwmni theatr cynhwysol o Gaerdydd, Hijinx, ym mis Hydref 2019 gan arwain cenhadaeth Hijinx i’w gwneud hi’n beth cyffredin gweld actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ar ein llwyfannau a’n sgriniau. Cyn hyn, Sarah oedd Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Mae Hijinx yn anelu at gydraddoldeb drwy greu celfyddyd neilltuol gydag actorion sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth; ar lwyfan, ar sgrin, ar y stryd, yn y gweithle’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Maen nhw’n creu perfformiadau sy’n drawiadol o wahanol ac wedi ennill clod am eu cynyrchiadau theatr arobryn, prosiectau cymunedol a hyfforddiant ym maes cyfathrebu.
Yn ystod ei 12 mlynedd gyda CGG y BBC, roedd Sarah yn ddylanwadol wrth sbarduno datblygu cynulleidfaoedd a gweithgarwch ymgysylltu, gan gynyddu ymwybyddiaeth o waith y gerddorfa yng Nghymru ac yn rhyngwladol, yn eu plith prosiectau uchelgeisiol cysylltiedig â theithiau yn Ne America, Tsieina ac Ewrop. Arweiniodd raglen o weithgarwch i ddathlu pen-blwydd y gerddorfa yn 90 oed gan gyflwyno llwyfannau newydd arloesol i’w gwaith gan gynnwys cyngherddau ffrydio byw a phrofiadau rhithwir.