A person presenting to a room of people
Cymysgu a Chyflwyno
Digwyddiad: digwyddiadau
Mer, 08/10/2025 - 10:00yb-Mer, 08/10/2025 - 12:00yp
Online

Gwybodaeth am y digwyddiad

Ymunwch â ni ar gyfer Cymysgu a Chyflwyno – Digwyddiad Deinamig lle bydd Rhaglenwyr a Gwneuthurwyr Theatr yn dod ynghyd.

Rydyn ni'n falch iawn o'ch gwahodd i Cymysgu a Chyflwyno – digwyddiad bywiog a phrysur lle bydd gwneuthurwyr theatr, cynhyrchwyr a rhaglenwyr lleoliadau yn dod ynghyd i sbarduno syniadau, meithrin cysylltiadau, a siapio dyfodol theatr yng Nghymru.

Beth i'w ddisgwyl:

· Cyflwyniadau 5 munud gan wneuthurwyr theatr

· Cyflwyniadau 2-5 munud gan leoliadau

· Ymdeimlad agored a chydweithredol

P'un a ydych chi'n dod i’r digwyddiad i gyflwyno syniad neu beidio, mae hwn yn argoeli i fod yn lle gwerthfawr i ddarganfod gwaith newydd, cwrdd â phartneriaid posibl, ac archwilio posibiliadau creadigol.

Cewch glywed gan: Eisteddfod Genedlaethol Cymru • Theatr Spectacle Ltd • YMa • Theatr Dreigiau Hapus • Theatr Clwyd • Maria Luz Cervantes • Kitsch & Sync Collective

Byddwn hefyd yn sbarduno sgwrs am sut y gallwn ni fynd ati’n well i gefnogi arferion cyflwyno ac ymchwil a datblygu yn ein sector. Gan adeiladu ar argymhellion yr Adolygiad o Theatr Saesneg, byddwn yn edrych ar yr hyn sydd ei angen i symud ymlaen – adnoddau, cefnogaeth a chyd-ddealltwriaeth.

Gadewch i ni ddod at ein gilydd i gymysgu, i gyflwyno syniadau, ac i adeiladu dyfodol theatr.

Bydd ein digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal ar-lein, ond rydyn ni’n gobeithio cynnal hyn wyneb yn wyneb yn y dyfodol os oes digon o ddiddordeb. 

 

Bydd y digwyddiad yn cynrychioli lleisiau sefydledig a lleisiau mwy newydd sydd eisiau mynd â chynhyrchiad ar daith; sy’n amrywio o ran ehangder, genres a chynulleidfaoedd. Dylai roi cyfle i’r ddwy ochr drafod cynlluniau artistig, 12-24 mis cyn y cam cynhyrchu, ac i hyrwyddwyr/lleoliadau/cynhyrchwyr roi adborth a mynegi eu diddordeb.

Bydd angen i’r rhai sydd eisiau cymryd rhan lenwi ffurflen gais syml a mynd drwy broses ddethol. 

I gymryd rhan, llenwch y ffurflen gais fer hon.  Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 30 Medi 2025.

Os ydych chi’n gwneud cais, rydyn ni eisiau clywed pam eich bod chi’n cyflwyno syniad a pha berthnasoedd rydych chi’n gobeithio eu datblygu. Mae’n bwysig cynnwys hyn yn eich cais gan ein bod ni’n awyddus i weld lleoliadau ac artistiaid yn gweithio gyda’i gilydd i greu gwaith newydd ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd. Os byddwch chi’n llwyddo i sicrhau eich lle i gyflwyno, bydd hynny hefyd yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar y diwrnod.

P'un a yw eich cyflwyniad yn seiliedig ar gynhyrchiad cyflawn sy'n barod i fynd ar daith, cynhyrchiad sydd ar y cam ymchwil a datblygu, neu hyd yn oed syniad yr hoffech chi ei archwilio, rhannwch ef gyda ni yn eich cais. Rydyn ni hefyd yn croesawu cyflwyniadau gan leoliadau a allai fod â chynlluniau i ddatblygu cynulleidfaoedd newydd, neu sydd eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r rhai fydd yn bresennol am eu cynlluniau a’u dyheadau o ran rhaglenni. Drwy ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o’r gwaith, y lleoliad ac anghenion y gynulleidfa, y gobaith yw creu darnau teithiol sy’n ymatebol ac yn hygyrch. 

Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael ar y diwrnod.

Cofrestrwch yma i fynychu:

https://www.eventbrite.co.uk/e/mix-up-and-pitch-cymysgu-a-chyflwyno-tickets-1664266910129?aff=oddtdtcreator