Conglfaen gwaith Creu Cymru yw’r cynllun Ewch i Weld, rhaglen wedi’i thargedu o ymweliadau i berfformiadau, gwyliau a chynadleddau.
Mae’r ymchwil hwn yn darparu gwybodaeth ar gyfer rhaglenni aelodau Creu Cymru, gan effeithio ar y cynyrchiadau a’r perfformiadau y maen nhw’n eu cyflwyno i’w cynulleidfaoedd – yn ogystal â darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol gwerthfawr ar gyfer staff theatrau. Bob blwyddyn, rydym yn rhentu ystafelloedd yn ystod Gŵyl Fringe Caeredin ac mae’r rhain ar gael i aelodau Creu Cymru am bris gostyngedig yn ogystal ag i weithwyr proffesiynol nad ydyn nhw’n aelodau.
Bu ymweliadau rheolaidd a guradwyd i Ŵyl Meim Rhyngwladol Llundain, Cinars, Imaginate, GDIF ac Incubator. Gall aelodau unigol hefyd wneud cais am fwrsariaeth tuag at gostau o fynychu perfformiad, cynhadledd a chyfleoedd hyfforddi.
Gall cynhyrchwyr ac ymarferwyr ymgeisio ar gyfer y cynllun.
I found the session extremely beneficial. My key learning from the day was the importance of authenticity and honesty in communicating accessibility and inclusivity to audiences. The session inspired me to find ways to communicate our actions, not just words, to consult diverse voices and listen to the lived experience of others. And to be aware of language and how different people will interpret the words we choose.
The benefit of discussing these topics with peers from other organisations was invaluable – thank you for a useful and constructive day.