2 people high-fiving
Bydi Cymraeg

Mae ‘Bydi Cymraeg’ yn gynllun gweithredu dwys newydd i gefnogi sefydliadau celfyddydol Cymru i osod y Gymraeg yng nghanol eu cynlluniau a gweithredoedd creadigol. Mae’n gynllun sydd wedi ei greu gydag Ysgogydd y Gymraeg Cyngor Celfyddydau Cymru a Creu Cymru a bydd ar gael i sefydliadau sy’n aelodau o Creu Cymru. 

Bydd aelod o Gonsortiwm Celfyddydau Cymraeg (bydi Cymraeg) yn gweithio gyda’r sefydliadau llwyddiannus dros gyfnod o 6 mis ac yn rhoi gwerth 12 diwrnod o’u hamser fel Bydi Cymraeg. Bydd yr amser yma yn rhad ac am ddim. Mae croeso i sefydliad ychwanegu at y gyllideb sylfaenol hon er mwyn ymestyn neu gynyddu’r amser.

Cynllun peilot yw hwn fydd yn cael ei reoli gan Creu Cymru. Bydd 2 sefydliad yn cael eu dewis yn y flwyddyn gyntaf. Y cyfan sydd rhaid gwneud yw datgan diddordeb i fod yn rhan o’r cynllun. Rhaid ateb y cwestiynau isod i geisio:

Pam eich bod am gymryd y cynnig?

Beth bydd y cynnig i’ch sefydliad?

Sut byddwch chi’n cefnogi’r cynllun a phrofi ymrwymiad iddo?

Mae’r cynllun hwn yn ychwanegol i’n cynigion Dysgu Cymraeg a marc safon y Cynnig Cymraeg. Byddai’n fuddiol os byddai’ch sefydliad eisioes yn cymryd mantais o’r cynlluniau yma. 

Dyddiad cau a chyswllt dangos diddordeb: 25/7/25

Dolen i gofrestru mynegiadau o ddiddordeb:  https://forms.gle/S5DpNsc1vW9c58vc9